Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Mai 2015
 i'w hateb ar 19 Mai 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i dreialu gau cyffordd 41 ar yr M4? OAQ(4)2278(FM)

 

2. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â lefelau gordewdra yng Nghymru? OAQ(4)2283(FM)

 

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith ymadawiad posibl y DU o'r Undeb Ewropeaidd ar economi Cymru? OAQ(4)2281(FM)W

 

4. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2286(FM)

 

5. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut y bydd y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig yn effeithio ar Gymru? OAQ(4)2284(FM)

 

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dai cydweithredol? OAQ(4)2275(FM)

 

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd i gynyddu cynhyrchiant ledled Cymru? OAQ(4)2288(FM)

 

8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â dyraniad grantiau trafnidiaeth i lywodraeth leol? OAQ(4)2292(FM)W

 

9. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y diwydiannau creadigol? OAQ(4)2276(FM)W

 

10. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU yn dilyn etholiad cyffredinol y DU mewn perthynas â datganoli pellach i Gymru? OAQ(4)2291(FM)W

 

11. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o refferendwm arfaethedig Llywodraeth y DU ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(4)2274(FM)

 

12. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn a fydd yn cymryd lle Twf Swyddi Cymru? OAQ(4)2279(FM)

 

13. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddathlu a hyrwyddo canmlwyddiant geni'r awdur T. Llew Jones? OAQ(4)2273(FM)W

 

14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Plant Cymru o safon ragorol? OAQ(4)2287(FM)

 

15. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar endyd cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i oedolion? OAQ(4)2280(FM)W